Senedd Cymru

Welsh Parliament

Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig

Economy, Trade, and Rural Affairs Committee

Rheoliadau Llygredd Amaethyddol

Agricultural Pollution Regulations

Economy(6) APR24

Ymateb gan: Ymateb unigol

Evidence from: Individual response

Dyma ein hymateb, fel teulu sy’n amaethu, i gynlluniau Llywodraeth Cymru i gyflwyno rheoliadau newydd i reoli llygredd amaethyddol (Ionawr 2021). 

Daeth Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021 i rym ym mis Ebrill, a dynodwyd Cymru gyfan yn Barth Perygl Nitradau, sy'n golygu bod yn rhaid i ffermwyr ledled Cymru gydymffurfio â rheolau ar ddefnyddio nitradau (slyri a gwrtaith) ar eu tir. 

Yn flaenorol, dim ond 2.4% o arwynebedd tir Cymru a ddynodwyd yn Barth Perygl Nitradau.

Gweler ein pwyntiau isod:

1. Mae holl grantiau y Llywodraeth hyd yma wedi bod yn gyrru amaethwyr a’r gadwyn fwyd tuag at gynhyrchu mwy o gynnyrch yn fwy effeithiol a datblygu eu busnesau yn y modd hwnnw. Felly mae hyrwyddo datblygiadau i'r cyfeiriad hwnnw a chan hyrwyddo cynlluniau busnes amaethwyr a’u benthyciadau o’r banc yn ddibynnol ar gynhyrchiant penodol, gan wedyn wyrdroi’r holl hyn yn beth hollol anghyfrifol, anghynaladwy ac anheg i'w wneud. Mae hyn yn wir hefyd am y ffatrioedd llaeth sydd wedi cynyddu capasati ac â'u cynlluniau busnes yn dibynnu ar hynny, gyda’r bygythiad real nawr o beidio â gallu cyrraedd y capasiti hwnnw.

2. Mae hi’n gydnabyddedig mae’r hyn sydd yn fwyaf cynaliadwy yn amgylcheddol, ieithyddol a diwylliannol yw mwy ffermydd llai – er fod grymoedd y farchnad yn gweithio yn erbyn hynny. Eironi y rheoliad hwn ydy ei fod yn mynd i wthio mwy o’r ffermydd llai allan o fusnes ac mae anghynaladwyedd hynny mor amlwg â'r dydd. Felly yn lle i wirioneddol fynd i wraidd y broblem – sy'n gorwedd gyda’r farchnad, mae'r Llywdraeth drwy'r rheoliad hwn yn cynnal eu cefnogaeth i fusnesau mawrion drwy beidio ymyrryd yn y farchnad honno, ar draul busnesau llai ac ar draul ein hamgylchfyd, ein hiaith a’n diwylliant.

3. Yn ategol at hyn mae unrhyw grantiau sydd yn debygol o fod yn dod i gynorthwyo busnesau i addasu (eto) yn debygol o fod, o adnabod Llywodraeth Cymru yn gymhleth ac yn llawn biwrocratiaeth. Bydd hyn eto yn debygol o wahaniaethu rhwng y rhai hynny sydd yn medru sgwennu grant a’r rhai hynny sydd yn methu. Enghraifft o Lywodraeth Cymru yn methu a bod yn gynhwysol. Does dim hyd yn oed yma gydnabyddiaeth o’r posibilrwydd i ran-ddirymu y ffermyd hynny sydd a dros canran penodol (80% er enghraifft) o’u tiroedd yn borfa.

4. Yn 2016 cynhaliwyd ymgynghroiad i'r parthau NV ac argymhellodd Cyfoeth Naturiol Cymru ei hun (sydd yn gorff y Llywodareth i bob pwrpas) y dylid cynyddu’r parthau NV o 2.3% o dir Cymru. Yn sgil yr argymhelliad hwn sefydlwyd Fforwm Rheoli Tir Cymru fel ymateb i'r angen i fynd i’r afael â llygredd dŵr ar draws y sectorau. Roedd y corff hwn yn cynnwys  cynrychiolaeth gan sefydliadau amgylcheddol, Llywodraeth Cymru, CNC, Undebau Ffermio a chyrff Ardoll. Cyflwynwyd adroddiad i Lywodraeth Llafur Cymru yn Ebrill 2018 a oedd yn cynnwys 45 argymhelliad ar sut i fynd i'r afael â llygredd amaethyddol drwy raglen o addysg, hyfforddiant, mentrau gwirfoddol gan ffermwyr, cymhellion, buddsoddiad ac arloesedd, wedi’u cefnogi gan reoleiddio craff ac adnoddau a monitro ychwanegol.Yn y tair mlynedd ers yr adroddiad mae’r Llywodraeth wedi methu gweithredu ar yr argymhellion hynny.